How we started
Hanes ac amcanion Amgueddfa Heddlu De Cymru
Sefydlwyd yr Amgueddfa ym 1950 gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Cwnstablaeth Morgannwg, Mr Edward Ronald Baker. Ag yntau’n hanesydd brwd, fe deimlai Baker fod treftadaeth a thraddodiadau’r llu mewn perygl o ddiflannu a bod hyn yn ei dro’n arwain at ddiffyg hunaniaeth a balchder ymysg swyddogion heddlu’r pryd. Diolch i feddwl chwim Baker, mae’r arteffactau o lu Morgannwg a welwn ni o’n cwmpas yma wedi eu harbed rhag eu distrywio fel y digwyddodd i rai’n perthyn i luoedd eraill wrth i ofod storio fynd yn brin.
Ronald Baker and his wife pictured at Barry Dock in 1942
Ers i Gwnstablaeth Morgannwg, Dinas Caerdydd, Bwrdeistref Abertawe a Bwrdeistref Merthyr Tudful ymuno i ffurfio Cwnstablaeth De Cymru (a newidiwyd i Heddlu De Cymru yn 1986), mae’r Amgueddfa wedi ymdrechu i gasglu a chofnodi hanes y lluoedd hyn i gyd.
Mae’r Amgueddfa’n adrodd hanes Plismona yn Ne Cymru o Oes y Celtiaid hyd y presennol. Ymysg nodweddion yr oriel mae ail-gread o gell Heddlu Fictoraidd (gan gynnwys carcharor preswyl!), Ystafell Gyhuddo Edwardaidd, Diorama o’r Ail Ryfel Byd yn dangos golygfa o’r 'Blitz', mygydau nwy prin a ffon rhingyll yn perthyn i’r plismon a arestiodd Dic Penderyn.
Heddiw mae Amgueddfa Heddlu De Cymru’n gartref i un o’r casgliadau mwyaf o bethau cofiadwy yn ymwneud â’r heddlu y tu allan i Lundain. Ei brif nod yw darparu gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus ar ran y llu. I’r diben hwn mae’r Amgueddfa’n gweithio’n agos gydag ysgolion ledled De Cymru, gan gynnig teithiau a gweithgareddau wedi sy'n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys yr Heddlu Fictoraidd, sy’n defnyddio enghraifft byw i ddangos bywyd plismon ym Merthyr yn yr 1860au, a swyddogaeth estynedig yr heddlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r Amgueddfa’n derbyn grwpiau ar gyfer ymweliadau cyffredinol ond iddynt drefnu ymlaen llaw.