Adroddwn stori Plismona yn Ne Cymru o gyfnod y Celtiaid hyd heddiw ac mae gennym un o’r casgliadau mwyaf o bethau cofiadwy y tu allan i Lundain.

Montage
Taith rithwir
Mae’n cynnwys yr ystafell gyhuddo Edwardaidd a’n carcharor preswyl Isaac Martin yn ei gell
Mynnwch gipolwg ar rai o’r gwrthrychau mwyaf diddorol yn cael eu harddangos yn eu cynefin gwreiddiol. Fe’u gwnaed yn bosibl drwy gymorth grant Cyngor Amgueddfeydd Cymru.
Plismona yng Nghyfnod Victoria
Mae’r amgueddfa yn ymhyfrydu yn ei chasgliad amrywiol o bastynau addurnedig a baentiwyd â llaw, lanterni ‘bullseye’, cyllyll unllafn, gefynnau, snipwyr, chwibanoglau a ratlau.

Mickey Mouse childs gas mask
Pethau Cofiadwy Heddlu yr Ail Ryfel Byd
Mae’r casgliad yn cynnwys helmedau heddlu, tortshys gorchudd a masgiau nwy prin.
Diorama Ail Ryfel Byd yn dangos golygfa o’r “Blitz”.
Gweithio’n agos gyda’r genhedlaeth nesaf
Mae’r Amgueddfa yn gweithio yn agos gydag ysgolion ledled De Cymru, yn cynnig teithiau a gweithgareddau sy'n berthnasol i'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae’r rhain yn cynnwys Heddlu Oes Victoria, yn defnyddio esiampl o fywyd go iawn i ddarlunio bywyd fel heddwas ym Merthyr yn y 1860au, a rôl estynedig yr heddlu yn ystod yr ail ryfel byd.